|
Croeso i’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2012
Ym mis Ionawr a Chwefror, caiff yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF) 2012 ei lawnsio yn y rhan fwyaf o sefydliadau Addysg Bellach ac Uwch ledled y DU. Bellach yn ei wythfed blwyddyn, yr ACF yw eich cyfle chi i ddatgan eich barn ynglŷn â’r hyn ‘roeddech chi’n ei hoffi am y cyfnod y treulioch yn eich sefydliad, yn ogystal â’r pethau hynny y teimlwch y gellid gwella arrnynt.
Caiff adborth gan fyfyrwyr ei ddefnyddio i gasglu data cymharol blwyddyn ar ôl blwyddyn:
- Mae’r canlyniadau yn cael eu cyhoeddi i ddarpar fyfyrwyr a chynghorwyr i’w helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am ble a beth i’w astudio
- Mae data o arolygon blaenorol ar gael ar hyn o bryd ar wefan Unistats yn
- O fis Medi 2012 ymlaen, bydd y canlyniadau ar gael yn gyhoeddus drwy’r Setiau Gwybodaeth Allweddol a fydd ar gael ar wefannau prifysgolion a cholegau, ar wefan swyddogol newydd ac ar offeryn chwilio cwrs UCAS a ailddatblygwyd (Chwilotwr Cwrs). I gael mwy o wybodaeth cliciwch yma
- Mae prifysgolion, undebau myfyrwyr neu golegau hefyd yn defnyddio’r canlyniadau yn fewnol er mwyn hwyluso arfer gorau a gwella profiad dysgu’r myfyrwyr.
Rydych chi a’ch atebion yn aros yn ddienw, a defnyddir eich manylion cyswllt at ddiben yr arolwg yn unig.
Gweinyddir yr arolwg gan Ipsos MORI, asiantaeth ymchwil i’r farchnad annibynnol.
|